Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (yn agor mewn tab newydd) yn ein helpu i'w wella.

Hysbysiad preifatrwydd

Bydd yr holl ddata sy'n berthnasol i geisiadau yn cael ei drin yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 ac mae'n bosibl y bydd yn cael ei rannu o fewn yr awdurdod lleol, gydag awdurdodau lleol eraill, yr heddlu a swyddogion gorfodi parcio er mwyn datgelu ac atal twyll. Ystyrir unrhyw wybodaeth feddygol a gyflwynir i gefnogi ceisiadau yn "ddata personol sensitif", ac ni fydd yn cael ei ddatgelu i drydydd parti oni bai ei fod yn angenrheidiol er mwyn gweithredu a gweinyddu Cynllun y Bathodyn Glas, ac i asiantaethau ac adrannau eraill y llywodraeth i ddilysu prawf o hawl neu fel sy'n ofynnol fel arall o dan y gyfraith.