Datganiad hygyrchedd ar gyfer 'Gwneud cais am Fathodyn Glas'
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Adran Drafnidiaeth. Rydyn ni am i gymaint o bobl ddefnyddio'r wefan hon ag y bo modd. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y dylech allu gwneud y canlynol:
- nesáu hyd at 300% heb golli'r testun oddi ar y sgrin.
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd.
- gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydyn ni hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor hawdd ei ddeall ag y bo modd.
Mae AbilityNet yn rhoi cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Dweud am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella hygyrchedd y gwefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydyn ni'n bodloni'r gofynion hygyrchedd, dywedwch wrthym drwy ddefnyddio ein ffurflen adborth (yn agor mewn tab newydd).
Y weithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) ('y rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydyn ni'n ymateb i'ch cwyn, cewch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn berson
Mae awdurdodau lleol sy'n gweinyddu Cynllun y Bathodyn Glas yn darparu gwasanaeth cymorth i wneud cais digidol. Sut i gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2).
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio yn llawn â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 AA.
Sut gwnaethom brofi'r wefan hon
Mae'r wefan hon yn cael ei phrofi o leiaf unwaith yr wythnos gan y tîm sy'n ei chynnal ac o bryd i'w gilydd gan gyrff allanol. Ar adeg cyhoeddi'r datganiad hwn, y tro diwethaf iddi gael ei phrofi'n fewnol oedd 2 Hydref 2019 a chafodd ei phrofi'n allanol ddiwethaf ar 12 Rhagfyr 2018 gan Digital Accessibility Centre Limited.
Gwnaethom brofi pob llwybr drwy'r gwasanaeth 'Gwneud cais am Fathodyn Glas'.
Paratowyd y datganiad hwn ar 1 Awst 2019. Cafodd ei ddiweddaru ar 2 Hydref 2019.